top of page

Hanes Neuadd Goffa Cricieth

Lloyd George Cymraeg.jpg

Y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George

Adeiladwyd yr adeilad rhestredig yma gyda rhoddion cyhoeddus fel cofeb i drigolion lleol a fu’n ymladd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae bellach yn cynnwys y rheiny a roddodd eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd hefyd.

​

Agorwyd y Neuadd Goffa gan y gwleidydd lleol ac enwog, y cyn-Brif Weinidog David Lloyd George, yn 1922, ac mae’r adeilad yn dal i gynnwys rhai nodweddion gwreiddiol Art Deco. Mae’r gatiau haearn addurnedig gwych a roddwyd gan Sefydliad y Merched Criccieth yn arwain trwy’r ardd gyda’i lawnt taclus tuag at y brif fynedfa. Mae drysau derw crwm bendigedig wedi eu mewngosod a phaneli gwydr gwreiddiol Celf Deco yn amgylchynu’r cyntedd coffa.

​

Yn y 1970au gafodd yr adeilad ei adnewyddu a’i adfer gan Bwyllgor Rheoli a gymerodd drosodd rhedeg a chynnal a chadw y lleoliad gan y Cyngor lleol.

​

Ar ddiwedd y 1990au, gwelwyd gwelliannau enfawr pellach i’r llwyfan, goleuo, sain ac ystafelloedd gwisgo gyda chymorth arian Loteri Genedlaethol yn gwneud Neuadd Goffa Criccieth yn un o’r lleoliadau adloniant gorau yn yr ardal.

Gosod y Garreg Sylfaen

Rhannau cyfieithiedig o’r erthygl a gyhoeddwyd yn ‘The Times’ 5ed Mehefin 1922, yn cofnodi achlysur gosod carreg sylfaen Neuadd Goffa Cricieth.

​

“Gosododd y Prif Wenidog, a hebryngwyd gyda Mrs Lloyd George a’r Arglwydd Riddell, garreg sylfaen Neuadd Goffa Cricieth brynhawn dydd Sadwrn.

​

 

Bydd y Neuadd yn gallu eistedd deuddeg cant o bobl, a bydd enwau’r trideg saith dyn o Gricieth a gollodd eu bywydau wedi’u naddu ar baneli y tu mewn i’r Neuadd”. Cyflwynwyd trywel arian i Lloyd George, a ddaru, tra’n gosod y garreg sylfaen hefyd osod sawl cofnod gan gynnwys papurau newydd, darn arian, a llythyr a ysgrifennwyd ganddo ef ei hun a ddarllenodd:

​

“Bu farw’r dynion ifanc hyn fel bod Arglwyddiaeth Cywirdeb a Rheswm yn cael ei sefydlu yn fwy pendant mewn  llywodraeth dyn”

​

Wedi gosod y garreg, dywedodd Lloyd George:

.

“Roeddwn yn teimlo ei bod hi’n ddyletswydd arnaf i ddod yma i dalu teyrnged o barch i’r dynion pybyr hyn am eu gweithredoedd pybyr a’u haberth pybyr. Cyn belled ac y bydd y tonnau yn taro yn erbyn yr hen graig honno (gan bwyntio tuag at y graig lle sâf Castell Cricieth) bydd atgof o beth y gwnaeth y  dynion hyn feiddio a dioddef er mwyn hawl a chyfiawnder yn byw, ac hyd y gwna’r mynyddoedd hyn (yn trosedrych Bae Ceredigion) ddisgyn i’r môr, bydd yr ysbrydoliaeth a ddaw o esiampl y dynion ifanc hyn yn rhywbeth fydd yn cynnal dynoliaeth am oesoedd di-rif yn ei hymdrech am bethau gwell”

Carreg Sylfaen Saesneg.jpg

Cysylltu gyda ni

Diolch am gysylltu gyda ni

© 2024 by Neuadd Goffa Criccieth Memorial Hall 
Powered and secured by Wix

bottom of page